Orendy

Y tu mewn i'r orendy yn yr Orangerieschloss, Potsdam, yr Almaen, yn dangos y coed ffrwythau yn eu cynwysyddion

Ystafell neu adeilad lle gellid cadw coed oren a choed ffrwythau eraill yn ystod y gaeaf oedd orendy. Roeddent yn ychwanegiadau ffasiynol i blastai gwledig o'r 17g, 18g a 19g. Yn nodweddiadol roeddent ar ffurf tŷ gwydr neu ystafell wydr fawr iawn. Byddai coed yn cael eu cadw mewn cynwysyddion a fyddai'n cael eu symud allan i'r awyr agored yn ystod misoedd yr haf. Roedd orendy yn symbol o fri a chyfoeth. Byddai perchnogion yn tywys eu gwesteion yno ar deithiau o amgylch yr ardd i edmygu nid yn unig y ffrwythau ond hefyd bensaernïaeth y lle.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search